Parc Hada
ychwanegu cartrefi di-garbon at y gymuned
yn Rhyd-y-fro, Pontardawe

Cyflwyno’n cartrefi newydd.
Rhywle i’r gymuned a natur weithio law yn llaw.
Adeiladu cartrefi gwell er cenedlaethau’r dyfodol ac er ein byd.
Mae’n llai o dŷ, mwy o gartref.
Sero Homes ydyn ni. Rydyn ni’n adeiladu cartrefi gwirioneddol ddi-garbon i helpu i drechu argyfwng yr hinsawdd, ac rydym ni’n gweithio i drawsnewid y tir prysg ar ben Waunsterw yn 35 o gartrefi cynaliadwy newydd i helpu i fodloni’r galw yn eich ardal. Ein henw ni ar y datblygiad yw “Parc Hadau”.
Parc Hadau – y stori hyd yma
Yn Sero, rydyn ni o ddifrif am gyflenwi cartrefi gwell ac wedi ymrwymo i weithio gyda’n cymdogion, fel yr arbenigwyr yn yr ardal a’r gymuned leol, i’n helpu i wneud hyn.
Cynhaliom ni’n harddangosfa gyhoeddus gyntaf ym mis Gorffennaf 2019 ynglŷn â’n syniadau cychwynnol, ac wedyn ail ymgysylltiad â’r cyhoedd ynglŷn â’n dogfennau cynllunio drafft ym mis Hydref, gan gynnwys digwyddiad yn ysgol Gynradd Rhyd-y-fro. Mwynhaom ni’r arbennig ein sesiwn ryngweithiol gyda’r disgyblion Blwyddyn 6 gan rannu’n syniadau am ddatblygu cartrefi di-garbon a dylunio cartrefi sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol.
At ei gilydd, braf oedd derbyn ymateb mor gadarnhaol i’n cynigion, ac rydym ni wedi ceisio ysgwyddo syniadau oddi wrth y gymuned i wella’n cynlluniau. Er enghraifft, rydym ni bellach wedi neilltuo lle i’r gymuned dyfu bwyd ac wedi darparu dau gartref mwy o faint, 4 ystafell wely, sy’n addas i deuluoedd mwy o faint.
Cewch chi ddysgu mwy am y gweithgarwch ymgysylltu sydd wedi cael ei gynnal a’r ymatebion a gawsom drwy edrych ar Adroddiad yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio.
Cafodd y cais cynllunio ei gymeradwyo gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 17 Rhagfyr.
Yn ogystal, oherwydd natur arloesol Parc Hadau, ym mis Medi cawsom y newyddion ardderchog ein bod wedi llwyddo i sicrhau arian o dan gronfa Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn helpu i gefnogi’r costau uwch sy’n gysylltiedig â’r holl nodweddion di-garbon ac ecolegol rydym ni’n eu cynnig.

Trwy gydol mis Medi mae ein harbenigwyr ecoleg wedi ymweld â Pharc Hadau bob dydd, gan symud tua 160 o ymlusgiaid allan o’r ardal ddatblygu. Mae hyn wedi cynnwys nifer fawr o fadfallod cyffredin ac ychydig o nadredd defaid, yn ogystal â nifer sylweddol o amffibiaid gan gynnwys llyffantod du, brogaod cyffredin a madfallod palmwyddog.
Rydym ni’n gwneud cynnydd da o ran paratoi’r safle i ddechrau adeiladu’r cartrefi newydd ym Mharc Hadau, ond o ganlyniad i’r ymyrraeth barhaus mewn perthynas â Covid, rydym ni erbyn hyn yn rhagweld y bydd y gwaith tir yn dechrau ychydig yn hwyrach nag a ragwelwyd, sef Gwanwyn 2021.
Byddwn ni’n cadw cyfnod y gwaith cychwynnol paratoi’r tir yn fyr (tua phedwar i bum mis), drwy wneud y cyfan mewn un ymdrech er mwyn lleihau’r anghyfleuster a’r aflerwch i drigolion lleol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ardal yn ôl i fod yn eithaf glân cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn galluogi’r cyfnod tawelwch a llai lleidiog, sef codi’r cartrefi newydd eu hun, i ddechrau yn yr Haf 2021.
Gallwch chi ddarllen ein newyddlen Diweddariad i Gymdogion diweddaraf yma.

Ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau, dylai fod digonedd o gyfle i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â’r cartrefi rydym wedi eu codi. Caiff ein holl gartrefi eu rheoli’n broffesiynol gan Sero Homes i gynnig byw didrafferth gyda thenantiaethau hirdymor a rhenti mynegrifol i’w cadw ar bris teg. Cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych chi mewn bod yn breswylydd ym Mharc Hadau.

Cliciwch yma i weld y dogfennau ymgeisio allweddol

Prosiect gan Sero Homes yw Parc Hadau – rydyn ni’n fusnes newydd a gafodd ei gychwyn yng Nghymru, a’n nod yw meddwl o’r newydd am sut mae codi tai drwy adeiladu cartrefi cynaliadwy, ansawdd da sy’n gallu helpu’r amgylchedd. Trwy ddylunio arloesol a chynllunio medrus, ein bwriad yw creu mannau eithriadol sy’n addas at y dyfodol. Gallwch ddysgu mwy amdanon ni drwy fynd i: www.serohomes.com
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect neu am yr arddangosfa a’r ymgynghoriad cyhoeddus, cysylltwch â ni:
Ffoniwch: 01792 961213
E-bostiwch: Hello@Parc-Hadau.Wales
Ysgrifennwch at: Freepost GRASSHOPPER CONSULT